Memorandwm Esboniadol i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019

Paratowyd y Memorandwm Esboniadol hwn gan yr Adran Llywodraeth Leol a chaiff ei gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn cysylltiad â'r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1.

 

Datganiad y Gweinidog

 

Yn fy marn i, mae'r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi golwg teg a rhesymol o effaith ddisgwyliedig Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019. Rwy'n fodlon bod y manteision yn gwrthbwyso'r costau.

 

 

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

20 Medi 2019


 

1.    Disgrifiad

 

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 yn gohirio dyddiad etholiadau cyffredin cynghorwyr cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned yng Nghymru am un flwyddyn, o 2021 i 2022.

2.    Materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Dim  

3.    Cefndir Deddfwriaethol 

 

Gwneir y Gorchymyn hwn dan adrannau 87, 105(2), (3), 4(c) a 106(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”).

 

Mae adrannau 26 a 35 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn darparu ar gyfer cynnal etholiadau cyffredin cynghorwyr i gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned yn 2017 a bob pedair blynedd wedi hynny, a bod cynghorwyr mewn swydd yn camu i lawr ar y pedwerydd dydd ar ôl cynnal etholiad cyffredin.

 

Mae adrannau 87 a 106(1) o Ddeddf 2000 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i ddarparu ar gyfer newid y blynyddoedd y cynhelir etholiadau cyffredin cynghorwyr i unrhyw awdurdod lleol penodedig. Yng Nghymru, golyga hyn ethol cynghorwyr i gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned. Mae awdurdod lleol yn un penodedig os yw'n awdurdod lleol a bennir yn ôl enw yn y gorchymyn neu'n awdurdod lleol sy'n dod o dan unrhyw ddosbarth neu ddisgrifiad o awdurdod lleol a bennir yn y gorchymyn.

Mae adran 105(2) a (3) o Ddeddf 2000 yn nodi y gall gorchmynion dan Ddeddf 2000 wneud gwahanol ddarpariaethau ar gyfer gwahanol achosion, awdurdodau neu ddisgrifiadau o awdurdodau a gall gynnwys darpariaeth sy'n addasu deddfiad. Mae Adran 105(4)(c) yn darparu bod y pŵer i addasu deddfiad yn cynnwys pŵer i ddiddymu'r deddfiad hwnnw.

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn dilyn y weithdrefn Penderfyniad Negyddol.

4.    Diben ac Effaith y Ddeddfwriaeth 

 

Y Gorchymyn

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn gohirio dyddiad yr holl etholiadau llywodraeth leol am un flwyddyn, o 2021 i 2022. Cynhelir yr etholiadau dilynol bob pedair blynedd.

 

Cynhelir y diwrnod etholiadau cyffredin ar gyfer cynghorwyr sir, bwrdeistref sirol a chymuned ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai bob pedair blynedd, fel arfer.

 

Cynhelir etholiadau i gynghorau tref a chymuned ar yr un pryd ag etholiadau i gynghorau sir a bwrdeistrefi sirol. 

 

Golyga hyn y bydd y diwrnod etholiadau llywodraeth leol cyffredin yn newid o’r dydd Iau cyntaf ym mis Mai 2021 i’r dydd Iau cyntaf ym mis Mai 2022.

 

Cyd-daro ag Etholiadau'r Cynulliad

 

Mae'r etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf wedi'u trefnu ar gyfer mis Mai 2021. Golyga hyn y byddai'r etholiadau cyffredin nesaf ar gyfer ethol cynghorwyr fel arfer yn cyd-daro ag etholiad aelodau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan i’w tymor swydd newid o bedair blynedd i bum mlynedd dan Ddeddf Seneddau Tymor Penodol 2011. 

Diwygiodd Deddf Cymru 2017 Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac mae'n atal cynnal etholiadau llywodraeth leol ar yr un diwrnod ag etholiadau cyffredin i'r Cynulliad Cenedlaethol. Os trefnwyd i gynnal y ddau etholiad ar yr un diwrnod, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, bennu diwrnod arall ar gyfer cynnal etholiadau llywodraeth leol cyffredin.

 

Bydd newid blwyddyn etholiad cyffredin cynghorwyr yng Nghymru yn atal sefyllfa lle cynhelir etholiadau llywodraeth leol ar yr un diwrnod ag etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Ond gallai symud blwyddyn yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin i fis Mai 2022 olygu eu bod yn cyd-daro ag etholiad Cyffredinol nesaf Senedd y DU. Mae Deddf Seneddau Tymor Penodol 2011 yn darparu bod yr etholiad nesaf i'w gynnal ym mis Mai 2022. 

 

Mae Gweinidogion Cymru wedi gohirio etholiadau llywodraeth leol cyffredin o'r blaen. Gohiriodd Gorchymyn Etholiadau Awdurdodau Lleol (Cymru) 2014 etholiadau llywodraeth leol o 2016 i 2017. Oherwydd bod yr etholiadau cyffredin yn 2017 wedi'u cynnal, mae Gorchymyn 2019 yn diddymu Gorchymyn 2014.       

5.    Ymgynghori

 

Cynhaliodd Gweinidogion Cymru ymgynghoriad ynglŷn â newid dyddiad yr etholiadau llywodraeth leol nesaf o 2021 i 2022.

  
Cynigiodd y Papur Gwyn – Diwygio Llywodraeth Leol  - Pŵer i Bobl Leol, y dylid newid etholiadau llywodraeth leol i dymor pum mlynedd sefydlog, gan drefnu'r cylch etholiadau fel nad yw etholiadau llywodraeth leol yn cael eu cynnal ar yr un pryd ag etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol na Senedd y DU. 

 

Gofynnodd y papur ymgynghori: Ydych chi'n cytuno y dylid pennu tymor o bum mlynedd i lywodraeth leol yng Nghymru?

O'r 653 o ymatebion a gafwyd i'r cwestiwn hwn, roedd 70% yn cytuno a 29% yn anghytuno. Rhoddodd y rhai a oedd o blaid sylwadau ynglŷn ag alinio tymhorau llywodraeth leol gyda thymhorau'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth y DU; gan roi digon o amser i weinyddiaethau roi eu cynlluniau ar waith.   

I'r gwrthwyneb, roedd y rhai a oedd yn anghytuno yn teimlo bod y cylch pedair blynedd cyfredol yn briodol ac yn ddigon hir. Roedd nifer o'r ymatebwyr yn teimlo y byddai tair blynedd yn fwy boddhaol, gyda thymhorau byrrach yn golygu y byddai cynghorwyr yn fwy atebol i'r etholwyr.

 

Cyhoeddodd Gweinidogion Cymru ddatganiad ym mis Mehefin 2016 yn nodi eu bwriad i ddeddfu ar gyfer newid tymor swydd cynghorwyr o bedair blynedd i bum mlynedd. 

 



 

 


 

Asesiad Effaith Rheoleiddiol

 

Yr opsiynau

 

Opsiwn 1:  Gwneud Dim. Cynnal etholiadau cyffredin ar gyfer cynghorwyr sir, bwrdeistref sirol a chymuned ym mis Mai 2021.

Opsiwn 2:Symud yr etholiadau cyffredin ar gyfer cynghorwyr sir, bwrdeistref sirol a chymuned un flwyddyn i fis Mai 2022.

Costau a manteision

 

Opsiwn 1

Ar hyn o bryd, dyddiad yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf yw mis Mai 2021. Dyma ddyddiad etholiad nesaf y Cynulliad Cenedlaethol hefyd.

 

Er y gall bod manteision o ran cost i gynnal dau etholiad ar yr un diwrnod (etholiad y Cynulliad a'r etholiad llywodraeth leol cyffredin), mae cynnal y ddau etholiad dan sylw ar yr un diwrnod wedi'i wahardd dan adran 37ZA(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. Mewn amgylchiadau o'r fath, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn i newid dyddiad yr etholiad llywodraeth leol cyffredin. Felly, os nad yw'r Gorchymyn yn cael ei gymeradwyo ac nad yw blwyddyn yr etholiad yn newid, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru wneud Gorchymyn dan adran 37ZA(3) i newid diwrnod yr etholiad i adeg arall yn 2021. Does dim goblygiadau ariannol ychwanegol i gynnal dau etholiad yn agos at ei gilydd. Bydd costau'r etholiad yr un fath waeth pryd y cânt eu cynnal. Ond ni fyddai'n ddymunol cynnal dau etholiad yn agos at ei gilydd er mwyn lleihau'r effaith ar yr etholwyr eu hunain a'r gweinyddwyr etholiadol.

 

Opsiwn 2

 

Bydd gohirio blwyddyn etholiadau llywodraeth leol ar gyfer cynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned o fis Mai 2021 i fis Mai 2022 cyn pasio Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn sicrhau nad yw'r etholiadau llywodraeth leol cyffredin nesaf yn cyd-daro ag etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 



Cafodd yr ymgynghoriad ar gyfer newid tymor swydd cynghorwyr sir, bwrdeistref sirol a chymuned gefnogaeth gryf. Bydd gohirio etholiadau llywodraeth leol cyffredin am un flwyddyn yn gwahanu'r etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol. Bydd etholiadau cynghorwyr cymuned yn dal i gael eu cynnal ar yr un pryd ag etholiadau cynghorwyr sir a bwrdeistrefi sirol.   

Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw cost etholiadau llywodraeth leol.

 

Mae aelodau cynghorau sir a bwrdeistrefi sirol yn cael cyflog sylfaenol a bennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Y swm ar gyfer 2018/19 yw £13868. 

 

Yn eu hadroddiad blynyddol ar gyfer 2018/19 penderfynodd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol bod rhaid i bob cyngor tref a chymuned sicrhau bod swm o £150 ar gael i'w haelodau i gyfrannu at gostau a threuliau.

 

Bydd newid blwyddyn yr etholiad llywodraeth leol cyffredin yn ymestyn tymor swydd cynghorwyr presennol o un flwyddyn. Bydd angen i'r prif gynghorau dalu blwyddyn ychwanegol o gyflog sylfaenol i'r aelodau presennol. Mae hyn yn gyfanswm o £17,390,470 ar gyfer y 1254 o gynghorwyr sir a chynghorwyr bwrdeistref sirol yn y 22 prif gyngor.    

Ni fydd newid blwyddyn yr etholiadau llywodraeth leol cyffredin yn arwain at gostau ychwanegol o ran taliad cydnabyddiaeth i aelodau gan y byddai'r cyflog sylfaenol a phensiwn hefyd yn daladwy i aelodau etholedig pe bai'r etholiad yn cael ei gynnal ym mis Mai 2021. Yr unig newid yw mai’r aelodau cyfredol fydd yn manteisio o'r cyflog sylfaenol yn hytrach nag unrhyw aelodau newydd eu hethol.

Opsiwn 2 yw'r opsiwn a ffefrir gan Weinidogion Cymru.